Llawrlwythwch Lawlyfr 2023- 2024 yr ysgol yma!
Tyrd i mewn, mae yma groeso, aelwyd gynnes dan un to, yma mae pob un yn cyfrif, a phawb yn arwr yn ei dro… fel y rhai a fu o’th flaen di yn codi llais yn erbyn trefn, gelli dithau ddangos ochr, weithiau rhaid cael asgwrn cefn… cofia daith yr afon Ddyrfdwy, tarddu’n fychan rhwng y brwyn, weithiau’n droellog, weithiau’n union ond yn ei dafnau, dawns a swyn, a’r Tryweryn - yn ei halaw, y llon a’r lleddf ynghlwm i gyd, ond ynddi nid oes nodyn chwerw, dy annog mae i herio’r byd. a phan fyddi’n cael dy amau yn gorfod sefyll dros y gwir, cei o’th gylch gadernid Berwyn, a doethineb hen ei thir… A phan ddaw dy dro i adael, cwyd dy ben, rho wên i’r byd, a chofia fod yng Ngodre’r Berwyn, ddrws ar agor i bawb o hyd. Haf Llewelyn

Ysgol Godre’r Berwyn

Ffrydan Road,

Bala, Gwynedd,

LL23 7RU

Ysgol Godre’r Berwyn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Croeso i wefan Ysgol Godre’r

Berwyn

Ein nod yw creu ysgol sy’n rhoi plant yn gyntaf, yn parchu ac ymestyn pob unigolyn i’w lawn botensial. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i ddatblygu pobl ifanc egwyddorol, mentrus ac uchelgeisiol sydd yn rhoi o’u gorau pob amser. Amcanwn i roi’r addysg orau bosib i bob disgybl a chreu ysgol hapus ble mae bawb, yn blant ac oedolion, yn gwneud eu gorau bob amser, yn frwdfrydig, yn gofalu am ei gilydd ac yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle a phrofiad i ddysgu ac i gyfoethogi eu bywyd. Mae plant sy’n hapus yn gweithio’n well gan eu bod yn teimlo’n ddiogel. Os cânt barch gan eu rhieni a’u hathrawon, maent yn dangos parch yn ôl ac maent yn fwy awyddus i blesio. Ceisiwn sicrhau ein bod bob amser yn barod i wrando ar blant – nid eu clywed yn unig, a byddwn pob amser yn dêg. Nid yw hyn yn syml yn golygu trin pob plentyn yn union yr un fath bob amser. Rhaid trin pob plentyn yn ôl ei anghenion a’i bersonoliaeth unigryw ei hun. Ceisiwn annog plant i fod yn aelodau cyfrifol o’r ysgol a’u cymdeithas leol ac i dyfu’n bersonau sy’n ystyriol o eraill a’u hamgylchedd. Ceisiwn barchu syniadau pob oedolyn a phlentyn o fewn yr ysgol gan ddatblygu ymhellach yr arfer o gefnogi ein gilydd ym mhob agwedd o weithgareddau’r ysgol. Mae perthynas agos rhwng y cartref a’r ysgol yn holl bwysig, a gwyddom y cawn bob cyd-weithrediad gennych i sicrhau hyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach ynglŷn ag unrhyw fater, mae croeso i chi gysylltu gyda’r ysgol ar unrhyw adeg – mae’r drws bob amser ar agor. Bethan Emyr Jones
YSGOL  GODRE’R BERWYN

“Pan fo brwydrau yn y byd,

Godre’r Berwyn gwyn eu byd”
Llawrlwythwch Lawlyfr 2023- 2024 yr ysgol yma!
Tyrd i mewn, mae yma groeso, aelwyd gynnes dan un to, yma mae pob un yn cyfrif, a phawb yn arwr yn ei dro… fel y rhai a fu o’th flaen di yn codi llais yn erbyn trefn, gelli dithau ddangos ochr, weithiau rhaid cael asgwrn cefn… cofia daith yr afon Ddyrfdwy, tarddu’n fychan rhwng y brwyn, weithiau’n droellog, weithiau’n union ond yn ei dafnau, dawns a swyn, a’r Tryweryn - yn ei halaw, y llon a’r lleddf ynghlwm i gyd, ond ynddi nid oes nodyn chwerw, dy annog mae i herio’r byd. a phan fyddi’n cael dy amau yn gorfod sefyll dros y gwir, cei o’th gylch gadernid Berwyn, a doethineb hen ei thir… A phan ddaw dy dro i adael, cwyd dy ben, rho wên i’r byd, a chofia fod yng Ngodre’r Berwyn, ddrws ar agor i bawb o hyd. Haf Llewelyn

Ysgol Godre’r Berwyn

Ffrydan Road,

Bala, Gwynedd,

LL23 7RU

Ysgol Godre’r Berwyn © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

Croeso i wefan Ysgol

Godre’r Berwyn