Ysgol Godre’r Berwyn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Yn Ffês 1 bydd ein disgyblion ifanc yn cychwyn ar eu taith addysgol. Mae’r ffês cyntaf yma yn cynnwys disgyblion y dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 4 a’n blaenoriaeth ni yw sicrhau fod pob un ohonynt yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus yn yr ysgol. Ein nôd yw sicrhau fod pob disgybl yn cael cychwyn cadarn, nid yn unig o ran datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ond hefyd wrth feithrin sgiliau a gwerthoedd holl bwysig iddynt i’r dyfodol megis cydweithio, dyfalbarhau, holi a chwestiynu, datblygu chwilfrydedd a bod yn barod i fentro. Byddwn yn rhoi pwyslais ar feddylfryd o dwf o’r cychwyn cyntaf gan feithrin y disgyblion i gredu mai gwaith caled ac ymdrech sydd yn arwain at lwyddiant, ac i sylweddoli fod gwneud camgymeriadau yn rhan bwysig o ddysgu. O fewn ein themâu tymhorol byddwn yn rhoi cyfleoedd a phrofiadau amrywiol i’r disgyblion gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored a chreu cysylltiadau cryf â’r gymuned. Byddwn yn rhoi cyfleoedd amrywiol i’r disgyblion er mwyn datblygu eu hyder megis cyrsiau preswyl, gwahodd ymwelwyr i’r dosbarthiadau ag ymweld â llefydd diddorol, cefnogi eisteddfodau a gweithgareddau lleol a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon o bob math. Mrs Sara Morris Pennaeth Ffês 1
YSGOL  GODRE’R BERWYN

Ffês Un

Ysgol Godre’r Berwyn © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

Ffês Un