Ysgol Godre’r Berwyn © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Chweched Dosbarth

Ni ddylai unrhyw berson ifanc benderfynu ar ddewis llwybr Addysg Bellach ar chwarae bach, yn arbennig os yw hynny’n golygu dod yn aelod o’r chweched dosbarth mewn ysgol. Yma yn Ysgol Godre’r Berwyn, credwn yn gryf fod y berthynas rhwng ei disgyblion blynyddoedd 12 ac 13 â’r ysgol yn un ble mae pawb ar eu hennill. Drwy fod yn aelod o’r Chweched Dosbarth yma, bydd unigolion yn dod yn rhan o gymdeithas ddi-hafal ynddi ei hun, yn ogystal â’r ysgol ehangach. Byddant hefyd yn derbyn nid yn unig darpariaeth addysgol arbennig ond hefyd y gefnogaeth gan athrawon a staff ategol i ymdopi â’r naid o TGAU i heriau cyrsiau Uwch Gyfrannol. Rhoddir gwybodaeth ac arweiniad amserol pan ddaw i benderfynu ar eu camau nesaf wedi gadael yr ysgol, boed yn ddewis cwrs prifysgol, prentisiaeth neu swydd. Gwelwn fod gan ddisgyblion blynyddoedd 12 ac 13 ran allweddol yn lledaenu ethos yr ysgol gan arddangos agwedd iach at addysg, y parch disgwyliedig at ddisgyblion a staff ac ymrwymiad i gymdeithas. Mae dwy flynedd gyffrous, brysur yn llawn profiadau newydd yn eu hwynebu ac yn gyfnod fwy arbennig fyth gan mai aelodau o Chweched Dosbarth Ysgol Godre’r Berwyn ydynt. Ms Delyth Humphreys Pennaeth 6ed Dosbarth Am hanes a gwybodaeth am Chweched Dosbarth yr ysgol, dilynwch ni ar Trydar @godre_r Dilynwch ni ar Instagram Porwch Prosbectws y Chweched Dosbarth yma.
YSGOL  GODRE’R BERWYN

Dewisiadau Pynciau Blwyddyn 12

(cliciwch i wylio)

Celf

Cemeg

Cymraeg

Dylunio a Thechnoleg

Llenyddiaeth Saesneg

Hanes

Ffiseg

Addysg Gorfforol

Ysgol Godre’r Berwyn © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

Dewisiadau Pynciau Blwyddyn 12

(cliciwch i wylio)

Celf

Cemeg

Cymraeg

Dylunio a Thechnoleg

Llenyddiaeth Saesneg

Hanes

Ffiseg

Addysg Gorfforol